MISTI Global Teaching Labs yng Nghymru

Darparu cyfloedd STEM o'r radd flaenaf, wedi'u hariannu'n llawn, i fyfyrwyr yng Nghymru, y DU.

Cyfoethogi STEM.

Adfer & dal i fyny.

Sefydliad Technoleg Massachusetts(MIT)

Mae Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) yn un o brifysgolion mwyaf blaenllaw'r byd. Mae ei arwyddair - mens et manus - yn golygu “meddwl a llaw”, ac yn ymgorffori ymrwymiad y sefydliad i ddysgu ymarferol.

MIT International Science and Technology Initiatives (MISTI)

Mae MISTI yn ei gwneud hi'n bosibl i fyfyrwyr MIT brofi'r byd wrth ddatblygu gwybodaeth, mynd i'r afael â heriau anodd, a pharatoi ar gyfer bywydau o effaith, gwasanaeth ac arweinyddiaeth mewn cymdeithas fyd-eang ryng-gysylltiedig.

Llywodraeth Cymru

Cefnogir rhaglen MISTI Global Teaching Labs yng Nghymru gan adran addysg Llywodraeth Cymru. Bydd adnoddau a gynhyrchir drwy’r rhaglen yn cael eu defnyddio i gefnogi ysgolion a cholegau ar draws Cymru trwy blatfform digidol Llywodraeth Cymru, Hwb.

Ariennir rhaglen MISTI Global Teaching Labs yng Nghymru yn llawn gan Lywodraeth Cymru a'i darparu gan Equal Education Partners er budd pob ysgol, coleg a dysgwr ar draws Cymru.