MISTI Global Teaching Labs yng Nhymru

Pwerir a darperir gan Equal Education Partners

Ariennir gan Lywodraeth Cymru

Ein Cenhadaeth

Pryd? Ionawr 2025

Ble? Mewn ysgolion a cholegau ar draws Cymru

Mae rhaglen MISTI Global Teaching Labs yng Nghymru yn rhaglen effeithiol a thrawsffurfiol unigryw, sydd yn dod â hyfforddwyr STEM arbenigol o Massachusetts Institute of Technology (MIT) i ystafelloedd dosbarth ac ystafelloedd staff ar draws Cymru.

Trwy'r fenter partneriaethiol hon, nod Llywodraeth Cymru, MIT ac Equal Education Partners yw i gynyddu ymgysylltiad â phynciau STEM trwy archwilio materion y byd go iawn ac i rymuso dysgwyr i ymdrechu i gyflawni eu potensial llawn yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt.

Beth sydd ar gael?

Gweithdai STEM

Mae ein hyfforddwyr o MIT a phrifysgolion byd-eang gorau eraill yn cynnig amrywiaeth helaeth o wersi a gweithdai ar draws pob maes Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM), gan ddarparu rhywbeth cyffrous ac effeithiol i ddisgyblion o bob grŵp oedran a lefel cyrhaeddiad. Mae ein gweithdai yn ymdrechu i ennyn diddordeb pob dysgwr. Gweler dogfen Cwricwlwm MISTI GTL Cymru am ragor o fanylion.

Prosiectau rhyngddisgyblaethol wedi’u teilwra

Byddwch yn greadigol! Gall ysgolion a cholegau weithio'n uniongyrchol gydag un neu fwy o'n hyfforddwyr i gyd-greu prosiectau wedi’u teilwra i chi, gan ddod â meysydd gwahanol STEM ynghyd ar gyfer eich disgyblion. Mae prosiectau’r gorffennol wedi cynnwys ‘The Rovi Porter Robotics Challenge’, ‘Powering a Sustainable Island’, ‘Building Earthquake-Proof Buildings’, ‘The Pompeii Project’ a ‘Rollercoaster Quadratics’. Dewch â'ch syniadau i ni a gadewch i ni weld beth allwn ni ei ddatblygu!

Tiwtora gwpiau bach ac un-i-un

Yn fwy nag erioed, mae angen cefnogaeth unigol neu gefnogaeth mewn grwpiau bach ar ddysgwyr, yn enwedig mewn meysydd allweddol fel Gwyddoniaeth a Mathemateg. Mae ein hyfforddwyr ar gael i gynorthwyo’ch disgyblion i ddal i fyny ac i gefnogi ymdrechion adfer eich sefydliad. Dynodwch y disgyblion sydd angen cefnogaeth, nodwch y meysydd rydych chi am i'n hyfforddwyr ffocysu arnynt a byddwn ni'n sicrhau bod eich dysgwyr yn derbyn yr hwb sydd eu hangen arnyn nhw.

Sesiynau Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad a Dosbarthiadau Meistr

Mae rhaglen MISTI Global Teaching Labs yng Nghymru yn mynd y tu hwnt i agweddau llwyddiant academaidd eich myfyrwyr. Mae ein hyfforddwyr yn gweithredu fel adnodd ac fel modelau rôl i'ch myfyrwyr er mwyn ehangu eu gorwelion a gwella eu dyheadau. Mae sesiynau Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad, digwyddiadau panel a dosbarthiadau meistr yn cynnwys pynciau megis Menywod mewn STEM, Menywod mewn Tech, Chwaraeon a STEM, Astudio pynciau STEM yn y brifysgol a Gyrfaoedd mewn STEM.

Dysgu Proffesiynol a Datblygu'r Cwricwlwm

Trwy raglen MISTI Global Teaching Labs yng Nghymru, gall athrawon STEM ac arweinwyr ysgolion a cholegau gweithio gyda hyfforddwyr MIT i wella cwricwlwm STEM eu hysgolion a’u colegau. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys Rhaglen Dysgu Proffesiynol STEM ar gyfer athrawon yng Nghymru a ddarperir gan arbenigwyr o Raglen Addysg Athrawon Scheller (STEP) MIT.

Am ddigwyddiadau agored, gweler ein tudalen Digwyddiadau am fanylion. Ychwanegir digwyddiadau ar sail dreigl. Cymerwch ran i glywed mwy pan ychwanegir digwyddiadau.

Archwilio prifysgolion a chymorth gwneud cais am brifysgol

Yn aml, mae'n ofynnol i ymgeiswyr i raddau STEM gwblhau profion ac asesiadau ychwanegol. Mae rhaglen MISTI Global Teaching Labs yng Nghymru yn cefnogi'r rhai sy'n edrych i astudio pynciau STEM yn y brifysgol. Gadewch i ni wybod os oes gennych ddisgyblion sydd yn awyddus i wneud cais i gyrsiau STEM yn y brifysgol. Bydd ein hyfforddwyr yn eu cefnogi i lwyddo yn yr amgylchedd cystadleuol hwn.

Gwyliwch y fideo isod i glywed beth oedd gan ein hyfforddwyr, ysgolion a cholegau a dysgwyr cyfranogol i'w ddweud am raglen bersonol MISTI GTL yng Nghymru Ionawr 2023.

"Mae'n brofiad mae'n rhaid i ni wneud eto. Mae'n amhrisiadwy rhywbeth fel hyn.”

— Ysgol Garth Olwg

“Mae GTL yng Nghymru yn brofiad gwirioneddol werthfawr i ddysgwyr ac i staff.”

— Coleg Sir Benfro

“Yn ystod rhai o'r sesiynau yma rydym ni wedi gweld disgyblion gwahanol yn dod allan o’u cragen ac yn disgleirio."

— Ysgol Bro Teifi

“Neges gloi i ddweud pa mor wych oedd ymweliad ein hyfforddwr gyda'r ysgol. Ges i gyfle i dreulio bach o amser 'da fe ar ôl ysgol ac mae wedi cal y fraint o flasu Joe's Ice Cream o'r Mwmbwls a stroll o gwmpas Bae Caswell!”

— Ysgol Gyfyn Gwyr

“Roedd GTL yng Nghymru yn brofiad y byddaf yn ei gofio am weddill fy mywyd. Roeddwn i wedi bod yn breuddwydio am ddysgu mwy am Gymru a’r Gymraeg, ond heb unrhyw lwybrau go iawn i wneud hynny o Boston, felly’r gallu i fynd i Gymru, gweithio gydag ysgol cyfrwng Cymraeg, a rhannu fy nghariad at STEM gyda myfyrwyr Cymraeg yn gwireddu breuddwyd! Rydw i mor ddiolchgar i MIT MISTI UK a Equal Education Partners am wneud y rhaglen hon yn gymaint o lwyddiant ac am fod mor gefnogol bob cam o’r ffordd.”

- Hyfforddwr Global Teaching Labs yng Nghymru 2024

Cwestiynau Cyffredin

Pryd mae rhaglen MISTI Global Teaching Labs yng Nghymru 2025 n dechrau ac yn gorffen?

Mae rhaglen MISTI Global Teaching Labs yng Nghymru yn rhedeg trwy gydol mis Ionawr 2025.

Sut alla i gael fy ysgol neu goleg i gymryd rhan?

Cysylltwch â Equal Education Partners heddiw. Ffoniwch 01554 7777749 neu 02920 697129, neu estynwch allan at un o aelodau ein tîm.

A oes rhaid ymrwymo am gyfnod penodol?

Na. Nid oes isafswm nac uchafswm o oriau y gall neu mae'n rhaid i ysgolion neu golegau gymryd rhan ynddynt. Fodd bynnag, bydd sesiynau'n cael eu hamserlennu ar sail dreigl er mwyn gwneud y defnydd gorau o'r adnodd unigryw hwn.

Pryd ddechreuodd rhaglen MISTI GTL Cymru?

Fe wnaethom gyflwyno'r rhaglen MISTI GTL Cymru gyntaf yn 2019. Ers hynny, mae'r fenter wedi cyrraedd dros 60,000 o fyfyrwyr.

A oes unrhyw gostau ynghlwm â ​​chymryd rhan?

Na. Ariennir rhaglen MISTI GTL yng Nghymru yn llawn gan Lywodraeth Cymru ac fe'i cyflwynir heb cost i ysgolion a cholegau.

 Nid ydym wedi cymryd rhan o'r blaen. A allwn ni gymryd rhan yn 2025?

Gallwch, wrth gwrs. Rydym wedi ymrwymo i ehangu'r mynediad i'r cyfle hwn i fwy a mwy o ddisgyblion ar draws Cymru. Cysylltwch â ni i gymryd ran.