Hyfforddwyr MISTI GTL yng Nhymru 2022

 

Amelia Dogan

Mae Amelia yn ei thrydedd blwyddyn yn astudio Gwyddor a Chynllunio Trefol gyda Chyfrifiadureg ac Asudiaethau Americanaidd yn MIT. Ar wahân i’w hastudiaethau mae ar hyn o bryd yn Gynorthwyydd Ymchwil yn Labordy Data a Ffeministiaeth MIT. Mae Amelia hefyd yn aelod o Gymdeithas Merched mewn Peirianneg, Grŵp Gweithredu Cyfrifoldebau Cymdeithasol a Moesegol Cyfrifiaduro, Cyngor Myfyrwyr Swyddfa Addysg Lleiafrifoedd MIT, Cyngor Amrywiaeth Cymdeithasau Israddedigion MIT, Bwrdd Gweithredu Menter Asiaidd Americaidd MIT a Chynrychiolyddd Israddedigion ar gyfer Cynllunio Campws. Mae wedi cael profiad gwaith blaenorol yn Google ac Adran Drafnidiaeth UDA, a roddodd brofiad rhaglennu oedd yn berthnasol i fywyd go-iawn iddi. Mae gan Amelia brofiad dysgu helaeth o MIT, gan gynnwys gweithio fel Cynorthwyydd Dysgu ar gyfer modiwl Ymgyrchu Data a Thrais ar sail Rhyw.


Amelia Seabold

Mae Amelia yn ei phedwaredd blwyddyn yn MIT yn astudio Cynllunio a Bioleg. Mae’n Gyd-Sefydlydd Gweithgor Slymiau a Phreswylio Anffurfiol MIT ble mae’n cyfweld preswylwyr a gweithwyr INGO mewn preswylfeydd anffurfiol yn Sierra Leone ac India, ac mae wedi cyflwyno ymchwil ar Sierra Leone yn neunawfed Cyfarfod Geowyddor y Swistir a phymthegfed Cynhadledd AESOP YA. Mae Amelia hefyd yn gweithio ar Raglen Gefnogaeth Trychineb ar gyfer Miyamoto Global Disaster Relief ble mae wedi ysgrifennu cynigion grant ar gyfer nifer o sefydliadau i gefnogi project dyfrhad i lwyth Kara yn Ethiopia. O ran profiad dysgu, mae wedi cydweithio gyda menter cymdeithasol byd-eang o’r enw These Hands i gyd-ddysgu gweithdy pythefnos o hyd am broses ddylunio y cynllun i 40 aelod o’r gymuned ym Motswana. Drwy ei phrofiad dysgu mae wedi dysgu’r ffyrdd gorau o gynnig cymorth i fyfyrwyr fedru deall pynciau anodd ac ennyn sylw y rhai sydd heb ddiddordeb.

Ashleigh Teygong

Mae Ashleigh yn ei phedwaredd blwyddyn yn MIT yn astudio Peirianneg Gemegol a Rheolaeth. Mae ganddi brofiad helaeth o raglen MISTI Global Teaching Labs gan iddi gymryd rhan yn Global Teaching Labs yr Almaen yn 2020 yn dysgu Bioleg. Mae Asheligh yn edrych ymlaen i deithio i Gymru i ddangos i ddisgyblion pa mor gyffrous all pynciau STEM fod, gan gynnig enghreifftiau ysbrydoledig a realistig o beth all gyrfa o fewn eu diddordebau academaidd fod. Mae yn Gyd-Lywydd a Chyfarwyddwr Ymgyrchoedd ar gyfer yr ‘MIT Global Health Alliance’ ble mae’n goruchwylio gwaith mewnol y sefyliad, yn arwain cyfarfodydd y bwrdd gweithredol a chyfarfodydd ar draws y sefydliad, mae’n rheoli menterau codi arian ac addysg sydd yn canolbwyntio ar iechyd cyhoeddus a chyfiawnder cymdeithasol yn ogystal. Mae hefyd wedi datblygu rhaglen fentora ar gyfer aelodau’r clwb.

Cameron Kokesh

Mae Cameron yn ei thrydedd blwyddyn yn MIT yn astudio Peirianneg Fecanyddol gan ganolbwyntio ar yr Amgylchedd a Chynaladwyedd, Datblygu Cynaladwy a Llywodraethu a Pholisi Amgylcheddol. Mae wedi cymryd rhan yn MISTI Global Teaching Labs ym Mexico yn y gorffennol, ble roedd yn fentor ar gyfer y tim Roboteg Cyntaf ym Mhrifysgol Tecnologico de Monterrey ym Mexico City. Mae Cameron yn Gapten ar dim y Cerbyd Solar Trydanol yn MIT ble mae’n arwain tîm o 60 o fyfyrwyr sydd yn dylunio, cynhyrchu, adeiladu, profi a rasio cerbyd wedi’i bweru gan egni solar ar draws gwlad. Mae gan Cameron brofiad dysgu helaeth gan gynnwys bod yn Gymrawd Dysgu Israddedig mewn seminar myfyrwyr blwyddyn gyntaf ac astudio a thiwtora mewn grwp astudio annibynnol ar BC Calculus. Mae dylanwad athrawon a mentoriaid yn fawr ar Cameron, a byddai’n fraint cael chwarae rhan debyg ym mywydau disgyblion a myfyrwyr eraill yn y dyfodol.

Daniel Zhang

Mae Daniel yn ei bedwaredd flwyddyn yn MIT yn astudio Bioleg a Chyfryngau Cymharol. Fel hyfforddwr MISTI Global Teaching Labs yng Nghymru, mae’n gobeithio adeiladu ar ei brofiadau dysgu blaenorol (sydd yn debyg iawn i nod GTL o ddefnyddio dysgu ymarferol i ysgogi chwilfrydedd) er mwyn gweithio yn ôl arwyddair dysgu MIT - mens et manus - gyda meddwl a llaw. Mae Daniel yn Cyd-Gyfarwyddo dynaMIT! ble mae’n arwain y mudiad drwy ddatblygu cwricwlwm rhyngweithiol STEM er mwyn cynnig rhaglen haf gynhwysfawr, bythefnos o hyd, i ddisgyblion uwchradd o gefndiroedd difreintiedig a’r rheiny sydd wedi eu tangynrychioli. Mae hefyd yn Gyd-Lywydd Cymdeithas Cyn-Feddygol MIT. Fel myfyriwr STEM yn MIT, mae Daniel wedi cael sawl cyfle i deithio yn rhyngwladol i wneud gwaith ymchwil. Cafodd ei ddewis i deithio i Kwazulu Natal yn Ne Affrica i astudio polisi meddygol, gwyddonol a iechyd cyhoeddus ac ymatebion i epidemigau newydd. Mae hefyd wedi teithio i Israel i gynnal ymchwil amlbwnc mewn niwrofioleg ac wedi ei ddewis fel Ysgolor Gwyddoniaeth i deithio i Lundain i gymryd rhan mewn trafodaethau, seminarau a darlithoedd gwyddonol yng Ngholeg Imperial Llundain a’r Royal Geographic Society.

Elena Boal

Mae Elena yn ei phedwaredd flwyddyn yn astudio Cyfrifiadureg, Peirianneg a Sbaeneg yn MIT. Mae ganddi brofiad dysgu helaeth ac mae wrth ei bodd yn helpu myfyrwyr i ddysgu pethau newydd. Roedd Elena yn Gynorthwyydd Dysgu ar gyfer modiwl Cyflwyniad i Python yn MIT, ble mae’n helpu rhaglenwyr newydd i ddeall a datrys problemau codio, yn ogystal â mentora gyda CodeIt MIT ble roedd yn dysgu Cyfrifiadureg i grwp o ferched oedran uwchradd gan eu helpu i ddeall anghenion sylfaenol rhaglennu. Mae Elena wedi gweithio mewn Peirianneg Meddalwedd gyda Lyft, ac fel Gwyddonydd Ymchwil ar gyfer iCAD ac mewn Gwyddor Data ar gyfer Grwp UPF Functional Genomics. Ers 2018, mae Elena wedi gweithio fel Cydlynydd Datblygu, Gwirfoddolwr Cydlynu a Chyd-Gyfarwyddwr yn Camp Kesem MIT (grwp sydd yn canolbwyntio ar drefnu profiadau gwersylla i blant rhieni sydd wedi eu heffeithio gan ganser). Yn ei hamser sbar, mae Elena yn Gyd-Gapten tîm trydedd carfan Lacrosse MIT, yn aelod o Gymdeithas Merched mewn Peirianneg, ac yn mwynhau yoga, deifio sgwba, eirlithro a jyglo.

Julia Chatterjee

Mae Julia yn ei phedwaredd blwyddyn yn MIT yn astudio Perianneg Fecanyddol gyda Dylunio Cynaladwy. Mae’n edrych ymlaen i ddysgu pynciau sy’n canolbwyntio ar gynaladwyedd, newid hinsawdd ac ynni adneyddadwy, a byddai wedi hoffi dod ar eu traws yn gynt yn ei gyrfa academaidd. Yn ystod Hydref 2020 a Haf 2021, gweithiodd Julia fel intern Peirianneg Arloesi Ailgylchu yn Apple. Yma, bu’n adolygu prosesau dadosod cynnyrch i wella adferiad defnydd a metrigau costau, modelu prosesau ailgylchu e-wastraff gyda model cost disgwyliedig a goruwchwylio dysgu peirianyddol ac adeiladu cancllaw dadosod cynnyrch AR i’w ddefnyddio mewn cyfleusterau dad-gynhyrchu byd-eang. Yn Ionawr 2021, gweithiodd Julia ar broject yng Ngweithdy Deunyddiau Gweithredol Uwch AFFOA ble roedd yn gyfrifol am ddylunio offer perfformiad a ellir eu ailgylchu gan ddefnyddio ffibrau polyethylene wedi eu peiriannu a chyflwynodd ddarganfyddiadau project a phrototeip yng Nghynhadledd Chwaraeon MIT 2021. Y tu allan i’r dosbarth, roedd Julia yn Gyfarwyddwr Creadigol ac Arweinydd Taeniad ar gyfer cylchgrawn ffasiwn a dylunio MIT am ddwy flynedd, ac mae hefyd yn aelod o dîm Softball Rhyngolegol MIT.

Laura Schmidt-Hong

Mae Laura yn ei thrydedd blwyddyn yn MIT yn astudio Peirianneg Fiolegol a Gwyddorau Ymenyddol a Gwybyddol. Mae ganddi brofiad helaeth yn y meysydd hyn, gan gynnwys gweithio fel Ymchwilydd Israddedig yn Sefydliad Koch ar gyfer Ymchwil Cancr, gweithio yn Ysgol Haf Sefydliad Buck ar gyfer Ymchwil mewn Heneiddio a rôl Ymchwilydd Israddedig yn Sefydliad McGovern ar gyfer Ymchwil yr Ymennydd. Mae gan Laura brofiad pellach yn Adran Gwyddorau Daear, Atmosffer a Phlanedau MIT, ble cyflwynodd ei gwaith ymchwil cyntaf ar gyfer ei gyhoeddi. Ar wahân i’w hastudiaethau, mae Laura yn Bennaeth Copi ar gyfer y papur newydd myfyrwyr o’r enw The Tech ble mae’n rhedeg yr adran olygu ac yn goruchwylio cysondeb gramadegol a ffurfiol erthyglau. Mae Laura wrth ei bodd yn teithio ac mae wedi ymweld â’r Almaen, yr Eidal, Ffrainc, Tseina a Brasil.

Missy Hill

Mae Missy yn ei thrydedd blwyddyn yn astudio Cynllunio a Rheolaeth. Mae ganddi brofied helaeth yn ei maes yn ogystal â llawer o brofiad dysgu a datblygu cwricwlwm. Yn ystod Haf 2021, gweithiodd Missy ym maes Polisi Iechyd yn New America yn Washington D.C. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd yn diweddaru gwybodaeth am frechiad COVID-19 ar wefan Beat The Virus a datblygodd strwythur a chynnwys ar gyfer adrannau newydd o’r wefan ar hyder mewn brechiadau a pholisi maeth mewn pandemig. Yn ogystal, mae Missy wedi cael profiad gwaeth yn Swyddfa Maer Miami Beach yn edrych ar Adferiad wedi COVID, ble roedd yn ymchwilio pa mor effeithiol oedd polisïau COVID i helpu Swyddfa’r Maer gydag ymateb COVID. O ran dysgu a dylunio cwricwlwm, mae Missy wedi gweithio fel Cymrawd Dysgu Israddedig ar gyfer myfyrwyr blwyddyn gyntaf MIT, ble arweiniodd tua 60 o fyfyrwyr i gwblhau project grwp ar arloesi cludiant, ac fel Cymrawd Data Cyhoeddus ar gyfer Canolfan Mapio ac Addysg Leventhal ble datblygodd gwricwlwm a dysgodd gyrsiau cyhoeddus ar fapiau, data a chartograffeg.

Nick Schultz

Mae Nick yn ei ail flwyddyn yn MIT ac yn astudio Peirianneg Fecanyddol. Mae’n edrych ymlaen i gymryd rhan yn rhaglen Global Teaching Labs yng Nghymru nid yn unig i gynrychioli MIT ond hefyd i weld datblygiad academaidd yn y disgyblion y mae’n eu dysgu. Yn ddiweddar, cwblhaodd brofiad gwaith fel Peirianydd Mecanyddol yn Novelis Aluminum yn Efrog Newydd ble darllenodd a dadansoddodd glasbrintiadau, dyluniadau technegol a sgematig, ac adroddiadau cyfrifiadurol ar gyfer grwpiau bychain. Helpodd gyda chyfrifon peirianyddol, cynllunio dyluniadau, amcangyfrifo costau a gwneud ymweliadau maes i arsylwi cynnydd adeiladu. Yn y profiad gwaith hwn, gwelodd y dyluniadau a baratodd yn datblygu a helpodd leihau amser segur mewn ffatri. Mae Nick yn Gadèt ROTC (Reserve Officers’ Training Corps) yn y Fyddin, ble mae yn arwain tîm ac yn gyfrifol am ddatblygiad ei dîm. Mae Nick hefyd yn rhan o ‘Hackathon’ USASOC, ble mae’n gweithio ar ddefnyddio pelydrau isgoch fel ffurf o gyfathrebu ar faes y gad. Yn ei amser sbar, mae Nick yn rhan o Dîm Nofio Rhyngolegol MIT a Chlwb Poker MIT.

Paige Forester

Mae Paige yn ei thrydedd blwyddyn yn MIT yn astudio Peirianneg Fecanyddol. Mae ganddi brofiad helaeth o weithio yn y maes hwn, gan gynnwys gweithio fel ymchwilydd am flwyddyn yn MIT Sea Grant. Yma, ysgrifennodd raglen MATLAB i fodelu amledd cyseiniant blew morlo gyda mewnbwn defnyddwyr o ddefnydd, hyd a siâp. Mae Paige yn edrych ymlaen i ddysgu yn ystod y rhaglen Global Teaching Labs mis Ionawr gan ei bod yn angerddol am wneud y byd yn well, ac y gall addysgu ei dysgwyr i adlewyrchu yr egwyddor hwn sy’n ganolog i’w bywyd. Ar wahân i’w phrofiad academaidd ac ymchwil, mae Paige yn rhan bwysig o gymuned chwaraeon MIT. Ers 2019, mae wedi gweithio yng Nghlwb Rhedeg Little Beavers MIT ac mae’n Gyfarwyddwr ar y clwb bellach. Mae hefyd yn aelod o dîm Merched Hoci Maes Rhyngolegol y brifysgol, ac mae’n ymroi mwy nag 20 awr yr wythnos o fewn y tymor yn ymarfer, mynychu gemau ac yn cymryd rhan mewn sesiynau tîm.

Sarah Lincoln

Mae Sarah yn ei phedwaredd blwyddyn yn astudio Bioleg ac Astudiaethau Merched a Rhyw. Mae hi’n edrych ymlaen i gymryd rhan yn Global Teaching Labs yng Nghymru yn fawr, ac i brofi diwylliant Cymru. Yn 2020, cymrodd ran yn rhaglen Global Teaching Labs yn yr Eidal ble cynhyrchodd a chyflwynodd ddosbarthiadau rhyngweithiol ar Fiocemeg a Chemeg Organig i ddisgyblion Eidalaidd oedd ag ystod eang o allu cyfathrebu mewn Saesneg. Mae’n credu mai gwersi rhyngweithiol yw’r allwedd i ennyn diddordeb ac mae hefyd yn credu eu bod yn hwyl i’w cynhyrchu! Ers 2019, mae Sarah wedi bod yn Gydlynydd Hyfforddi ar gyfer MedLinks MIT ble mae’n cydweithio gyda staff meddygol MIT i gynnig gwybodaeth, adnoddau a gwasanaethau iechyd i’w chyfoedion yn y gymdeithas. Yn y rôl hon mae hefyd yn trefnu segmentau parhau mewn addysg i MedLinks sydd yn cynnwys pynciau fel defnyddio adnoddau iechyd meddwl, hiliaeth ym maes gofal iechyd a iechyd rhyw. Mae Sarah yn gwirfoddoli yn y Boston Medical Centre fel intern mewn menter Awtistiaeth-Gyfeillgar. Yma, mae’n cydweithio gyda teuluoedd cleifion i gynhyrchu cynlluniau gofal unigol ac asesu effaith menterau.

Seraphin Castelino

Mae Seraphin yn ei thrydedd blwyddyn yn astudio Peririanneg Gemegol yn MIT. Mae’n edrych ymlaen i ddysgu pynciau Cemeg a Mathemateg yn rhagen Global Teaching Labs yng Nghymru gan bod ganddi angerdd mawr am y pynciau hyn, ac hoffai gael y cyfle i wneud y pynciau hyn yn rhai diddorol i ddisgyblion yng Nghymru. Ar wahân i’w hastudiaethau, mae Seraphin wedi cael profiadau ymchwil helaeth o fewn Labordai Love a Swan yn Adran Berianneg Gemegol MIT. Mae ei hangerdd dros Berianneg Gemegol yn amlwg gan ei bod yn Gynrychiolydd Graddedigion 2023 ar gyfer Sefydliad Americanaidd Peirianwyr Cemegol MIT. Treuliodd Seraphin y 6 mlynedd diwethaf yn gweithio fel Hyfforddwyr Tenis ble oedd yn gyfrifol am drefnu a chydlynu sesiynau hyffordi a gweithgareddau teis i blant rhwng oedrannau 5-18. Mae hefyd ar dim Tenis Rhyngolegol Merched MIT ac mae’n treulio dros 20 awr yr wythnos i ymarfer a chystadlu.

Shruti Ravikumar

Mae Shruti yn ei thrydedd blwyddyn yn astudio Cyfrifiadureg a Gwybyddiaeth. Ar wahân i’w hastudiaethau, mae hefyd yn Gynorthwyydd Ymchwilio Israddedig ym Mhrifysgol Harvard. Yma, mae’n cynnal project ymchwil unigol ar sut mae plant ifanc yn deall perthnasau cymdeithasol. Dros yr haf, roedd Shruti hefyd yn intern ar gyfer y GIC yn ymchwilio i raglenni dadansoddi cyfryngau cymdeithasol a dadansoddi i gefnogi cyfathrebu wedi’i dargedu. Mae Shruti yn gweithio gyda’r Grŵp Ymchwil ac Ymgynghori Byd-Eang yn MIT, gan iddi fod yn Gyd-Sefydlydd a Llywydd MIT Chapter (2020) a Phenaeth Datblygu Byd-Eang (2021), a lansiwyd gyda’r bwriad o weithio’n agos gyda chyrff anllywodraethol a chwmniau gweithredu cymdeithasol i gyflawni eu nôd, gan ysbrydoli myfyrwyr i roi yn ôl i’r gymuned yn fyd-eang hefyd. Mae Shruti hefyd wedi gweithio ar brojectau sydd yn dadansoddi tueddiadau yn argraffiadau’r cyhoedd o bolisi cyhoeddus ar gyfryngau cymdeithasol a chyd-ddatblygu ap gofal iechyd i olrhain symptomau ar gampysau colegau. Mae Shruti hefyd yn Gyd-Sefydlydd y Dougherty Math Circle, ble roedd yn dysgu mathemateg cystadleuol ac yn rhannu ei hangerdd dros ddatrys problemau i dros 100 o blant. Derbyniodd Wobr Arwain Project gan Dalaeth California am y project hwn. O’r profiad dysgu hwn, mae wedi dysgu sut i ddatblygu cwricwlwm, dysgu gwersi, ac yn bwysicaf oll, sut i addasu pethau pan mae pethau (yn naturiol) yn cymryd trywydd gwahanol i’r cynllun gwreiddiol.

Oes diddordeb gennych i ymuno â’n tîm?

Os yr ydych yn fyfyriwr STEM (israddedig neu ôl-raddedig) mewn prifysgol yng Nghymru ac yr hoffech chi ddysgu ochr yn ochr â hyfforddwyr eraill ar draws y byd trwy'r rhaglen Global Teaching Labs yn 2022, cysylltwch â Equal Education Partners.