Hyfforddwyr MISTI GTL yng Nhymru 2021

 
Aidan+iMessage+to+Tom+Forey+Wales.jpg

Aidan Faustina

Mae Aidan yn fyfyriwr pedwaredd flwyddyn yn MIT ac yn astudio Ffiseg ac Athroniaeth. Roedd Aidan yn rhan o raglen MIT GTL 2020 a bu'n dysgu yn Ysgol Dwr-Y-Felin a Choleg Castell-nedd Port Talbot. Eleni, mae Aidan yn edrych ymlaen at rannu ei frwdfrydedd am ddysgu gyda myfyrwyr a'u helpu i gael profiad addysgol trawsnewidiol, hyd yn oed wrth ddysgu ar-lein. Yn MIT, ar wahân i weithio'n helaeth ar brosiectau ymchwil ffiseg arbrofol, mae Aidan hefyd wedi bod yn ymchwilio dulliau pedagogaidd ar gyfer cynyddu ymdeimladau o berthyn myfyrwyr mewn ystafelloedd dosbarth ffiseg. Y tu allan i'r byd ffiseg, prif weithgaredd allgyrsiol Aidan yw dadlau, ac mae o wedi bod yn gapten ar dîm dadlau MIT am y 2 flynedd ddiwethaf. Mae Aidan hefyd yn mwynhau chwarae cerddoriaeth, gemau cyfrifiaduron, a gwylio chwaraeon.

Andrew.jpg

Andrew Sorenson

O dyfu i fyny fel Sgowt Bachgen i wasanaethu fel Cynorthwyydd Labordy yn MIT, roedd Andrew o hyd yn gwybod ei fod am ddysgu a gwella sgiliau pobl eraill. Ers dechrau ei astudiaethau yn MIT, mae Andrew wedi ehangu ei wybodaeth mewn amrywiaeth o feysydd, ond mae ei ffocws mewn Peirianneg Drydanol. Er mai hyn yw ei dro cyntaf yn dysgu mewn ysgolion Cymru, nid hyn yw profiad cyntaf Andrew o'r rhaglen GTL, ar ôl ymweld â Chasachstan am dair wythnos yn 2019. Mae ei brofiadau yng Nghanol Asia wedi ei yrru i ymgeisio am raglen GTL eleni ac i rannu ei wybodaeth am bynciau STEM, yn enwedig peirianneg drydanol, unwaith eto. Y tu allan i'r ystafell dosbarth, mae Andrew yn mwynhau’r mwyafrif o chwaraeon a thyfodd i fyny yn chwarae llawer o bêl-droed, tennis a phêl-droed Americanaidd - camp y mae'n rhagori ynddi ac hyd yn oed wedi derbyn ysgoloriaeth ar ei chyfer!

Fahrisa.jpg

Fahrisa Islam Maisha

Mae Fahrisa yn ei blwyddyn olaf yng Ngholeg Yale-NUS (Singapore), ac yn astudio Gwyddorau Bywyd. O fewn y maes hwn, mae ganddi diddordeb mewn Bioleg Ddatblygiadol, Imiwnoleg Canser ac Ymchwil Iechyd y Cyhoedd. Pan nad yw hi'n gweithio yn y labordy nac yn dadansoddi data, mae Fahrisa wrth ei bodd yn gweithio yn y gymuned ehangach yn gwneud gwaith cymdeithasol ac yn dysgu myfyrwyr ifancach Fel arall, gallwch ddod o hyd iddi’n gwylio fideos Bon Appetit ar YouTube!

George.jpg

George Abu Daoud

Mae George, a chafodd ei eni a’i fagu yn Israel, wedi bod yn frwdfrydig am ddysgu ers oedran ifanc a bydd yn dechrau ei gwrs mewn Cyfrifiadureg y tymor nesaf yn MIT. Mae George yn frwdfrydig am ddysgu, gan esbonio bod dysgu yn annog chi i edrych ar gysyniadau o safbwynt gwahanol. Ychwanegodd bod dysgu yn gorfodi chi i feddwl am yr holl ffyrdd posib y gallwch gyrraedd myfyriwr a sut rydych chi fel athro yn dysgu’ch hun yn y broses. Y tu allan i'r brifysgol, mae George yn hyfforddwr i MEET (Middle East Entrepreneurs of Tomorrow) ac i'r ‘Model United Nation’. Ei hoff beth yw dadl dda gyda'i fyfyrwyr!

Giramnah_Pena-Alcantara+%282%29.jpg

Giramnah Pena-Alcantara

Ar hyn o bryd mae Giramnah yn astudio Peirianneg Fiolegol yn MIT. Cafodd ei geni i deulu lle mae bron pawb gyda gyrfa sy'n gysylltiedig â STEM. Mae Giramnah yn cofio tyfu i fyny yn labordai ei thad ac yn gyrru i lawr y coridorau ar Segways ôl-ffitio a hefyd bod yn llygoden fawr y labordy yng ngwersylloedd STEM ei mam! Mae hi'n falch ei bod wedi cael ei magu mewn gofod lle mae gwyddoniaeth yn cael ei hystyried yn rhywbeth hudolus. Mae Giramnah yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn rhaglen MIT GTL ac i ddangos hud gwyddoniaeth i bawb!

Isha.jpeg

Isha Mahrotra

Mae Isha yn fyfyrwraig trydedd flwyddyn yn MIT ar hyn o bryd ac yn astudio Cemeg a Bioleg. Mae ganddi gefndir helaeth mewn mentora myfyrwyr ysgol uwchradd mewn Bioleg, Peirianneg, Seicoleg, Ffiseg a Chemeg trwy'r rhaglen 'dynaMIT'. Mae Isha hefyd wedi bod i Dde Affrica i ddysgu am epidemigau, ac wedi treulio amser yn archwilio bioleg HIV a firysau byd-eang eraill - mae hi'n edrych ymlaen at drosglwyddo peth o'r wybodaeth hon i fyfyrwyr yn rhaglen GTL eleni! Yn ei hamser hamdden, mae Isha yn mwynhau rhwyfo ac yn rhan annatod o dîm y brifysgol. Mae hi hefyd yn hyddysg mewn Sbaeneg a Hindi ac yn uwchfan hunan-gyhoeddedig y Beatles!

IMG_9910.jpg

Jack-William Barotta

Gan ddychwelyd am ail flwyddyn i raglen GTL yng Nghymru, mae Jack yn frwdfrydig iawn i barhau â'i waith gyda myfyrwyr o Gymru. Ym mis Ionawr, ymwelodd Jack â Chymru a dysgodd yn ysgol Bassaleg yng Nghasnewydd lle bu’n ddigon ffodus i gael dau deulu gwesteiwr. Mae'n frwdfrydig am wneud pynciau STEM yn fwy hygyrch ar draws y wlad, ac mae'n teimlo bod ganddo gyfrifoldeb i ysbrydoli cenhedlaeth ifancach o wyddonwyr a meddylwyr creadigol. Mae cefndir dysgu Jack mewn Ffiseg, Mathemateg ac Economeg, ond llynedd, helpodd nifer o ddisgyblion ysgolion uwchradd i baratoi ar gyfer arholiadau mewn ystod o bynciau arall gan ddefnyddio'r sgiliau y mae wedi'u dysgu yn MIT. Y tu allan i'r ystafell dosbarth, mae Jack yn gefnogwr brwd dros Lerpwl ac yn mwynhau heicio, chwarae piano a darllen pryd bynnag mae ganddo'r cyfle!

Kanoe.jpg

Kanoe Evile

Mae Kanoe Evile yn fyfyrwraig ail flwyddyn yn MIT sy'n astudio Peirianneg Fiolegol ac Ieithyddiaeth. Mae hi’n dod yn wreiddiol o dref blanhigfa fach Haleiwa, yn Hawaii, ac mae'n bwriadu dilyn gyrfa mewn meddygaeth i wella ansawdd a mynediad at iechyd yn ei chymuned gartref ac ardal y Môr Tawel. Yn MIT, mae Kanoe yn dreulio'i hamser cynhyrchiol yn cynnal ymchwil fiolegol yn y ‘Page Lab’ ac yn gwasanaethu fel athrawes a mentor mewn rhaglenni addysgol K-12. Yn ei hamser rhydd, mae Kanoe yn mwynhau dysgu ieithoedd gwahanol, coginio a phobi, a chwarae unrhyw chwaraeon (yn enwedig pêl-droed!) gyda’i theulu a ffrindiau.

Kladji.jpeg

Klajdi Gjonaj

Mae Klajdi yn fyfyriwr pedwaredd flwyddyn israddedig yn adran Mathemateg MIT ac yn astudio Mathemateg a Chyfrifiadureg. Roedd Klajdi yn hyfforddwr ar gyfer rhaglen GTL 2020 a dysgodd yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr lle'r oedd o mor boblogaidd wnaeth y myfyrwyr roi baner Gymreig enfawr wedi'i llofnodi iddo! Yn flaenorol, mae Klajdi wedi gweithio fel Animeiddiwr Mathemateg ar gyfer y ‘Brown University Data Science Initiative’, lle'r oedd yn gyfrifol am gynhyrchu fideos o ansawdd uchel am bynciau mewn Mathemateg gan ddefnyddio'r Peiriant Animeiddio Mathemateg. Y tu allan i academyddion, mae Klajdi yn frwdfrydig iawn am gerddoriaeth - mae o hyd yn oed wedi cynnal sioe radio o'r enw Talkin 'Tunes. Mae Klajdi wrth ei fodd yn darganfod artistiaid newydd i wrando arnyn nhw, felly os oes gennych chi unrhyw argymhellion, anfonwch nhw iddo!

oD7sTTbw.jpg

Maria Ascanio Alino

Mae Maria yn fyfyrwraig MIT ail flwyddyn o Sbaen sy'n astudio Cyfrifiadureg a Pheirianneg. Dechreuodd ei diddordeb mewn addysg pan ddaeth yn fentor i CodeIt, sef sefydliad sy’n dysgu rhaglennu sylfaenol i blant o bob oedran a chefndir. Hefyd, mae gan Maria profiad o ddysgu Mathemateg, Gwyddoniaeth a Sbaeneg. Ar gyfer rhaglen MIT GTL eleni, mae hi'n edrych ymlaen yn fawr at gyflwyno ystod eang o wersi deinamig mewn meysydd pwnc mae hi'n eu caru!

Isuf.jpg

Mohammed Isuf Ahmed

Ar hyn o bryd mae Isuf yn astudio Mathemateg a Chyfrifiadureg yn MIT. Mae'n unigolyn academaidd iawn, ar ôl cyflawni 3 gradd A* mewn Mathemateg, Mathemateg Bellach a Chemeg a gradd A mewn Ffiseg yn ei Lefel A. Yn y gorffennol, mae Isuf wedi dysgu Mathemateg a Ffiseg i ddisgyblion TGAU ac hefyd wedi tiwtora myfyrwyr y tu allan i oriau'r ysgol. Nawr, yn MIT, mae Isuf yn fentor a graddiwr Ffiseg ac yn frwdfrydig i gael gafael ar brofiad yn ei faes. Mae Isuf wedi cwblhau interniaethau yng Nghyfleuster Ymchwil Feddygol UCL ac yn Sefydliad Astroffiseg Kavli. Yn ei amser hamdden, mae Isuf yn mwynhau chwarae hoci cae ac mae hefyd wedi dysgu ei hun i chwarae gitâr.

Myles.jpeg

Myles Noel

Mae Myles yn fyfyriwr blwyddyn gyntaf yn MIT ac yn astudio Cemeg Ffisegol. Mae'n gobeithio dod yn athro yn ei faes - gan ddychwelyd o bosib i MIT fel athro yn y dyfodol. Mae Myles eisiau annog myfyrwyr o gymunedau cenhedlaeth gyntaf o liw incwm isel i ddilyn addysg uwch ym meysydd llai amrywiol STEM, ac yn gweld rhaglen GTL fel cyfle gwych i ysbrydoli cenhedlaeth newydd. Yn flaenorol, mae Myles wedi cymryd rhan mewn rhaglenni a ganiataodd iddo i weithio yng nghyfleusterau NASA a gyda staff NASA. Ar gyfer y rhaglenni hyn, roedd yn rhan o'r tîm Gwyddoniaeth ac yn cynllunio ffug genadaethau i'r Orsaf Ofod Ryngwladol ac i blaned Mawrth. Yn ei amser rhydd, mae Myles yn mwynhau chwarae tennis a gwylio Pêl-droed Americanaidd - yn enwedig wrth annog ei tîm New England Patriots yn ei flaen!

Qian Hui Tan.JPG

Qian Hui Tan

Mae Qian Hui yn ei blwyddyn olaf yn Coleg Yale-NUS ac yn astudio Gwyddorau Bywyd gyda Gwyddorau Data. Yn ystod pandemig COVID-19, roedd hi'n fyfyriwr cyfnewid ym Mhrifysgol Harvard a threuliodd hanner tymor yn cymryd dosbarthiadau o Singapore gyda gwahaniaeth parth amser o 12 awr. Mae hi’n angerddol am fioleg canser, ac mae hefyd wedi gweithio ar Glefyd Alzheimer a pheirianneg meinwe. Fel tiwtor, mae hi'n creu lleoedd diogel i fyfyrwyr siarad am yr heriau ynghlwm â dysgu yn ystod pandemig. Yn ei hamser rhydd, mae hi wrth ei bodd yn archwilio croestorfan Bioleg a Groeg Hynafol, ac yn mwynhau siarad dros Skype efo'i chath.

Rana.jpg

Rana Harris Farooq

Mae Rana o Bacistan ac ar hyn o bryd mae'n astudio yng Ngholeg Yale-NUS. Mae'n astudio'r Gwyddorau Mathemategol, Cyfrifiadol ac Ystadegol. O redeg rhaglenni ysgolion haf mewn ysgolion difreintiedig trwy ei gorff anllywodraethol ‘Tameer’ i gynnal gwersylloedd dadlau ar gyfer dadleuwyr iau yn yr ysgol uwchradd, mae ganddo lot o brofiad yn dysgu myfyrwyr. Mae'n edrych ymlaen at ddilyn gyrfa mewn Gwyddor Data. Ar wahân i academyddion, mae wrth ei fodd yn gwylio a chwarae chwaraeon, yn enwedig pêl-droed. Mae hefyd yn cymryd rhan mewn dadleuon seneddol a Model y Cenhedloedd Unedig.

Rishav.jpg

Rishav Koirala

Mae Rishav yn fyfyriwr pedwaredd flwyddyn yng Ngholeg Yale-NUS, ac yn astudio'r Gwyddorau Ffisegol ar yr ochr Ffiseg, a hefyd y Gwyddorau Mathemategol, Cyfrifiadol ac Ystadegol. Mae'n feiciwr ffordd amatur ac yn frwd dros redeg. Pan nad yw'n gweithio yn y labordy nac yn darllen ar gyfer ei ddosbarthiadau, bydd fel arfer y tu allan, yn gwneud 5K cyflym neu'n gyrru o amgylch Singapore gyda'i ffrindiau yn y coleg.

 
ET4U4U_A.jpeg

Stuti Khandwala

Mae Stuti yn fyfyrwraig yn MIT ac yn astudio Cyfrifiadureg a Pheirianneg gyda bach o Economeg a Chemeg. Mae hi'n brwdfrydig am addysgu ac yn credu'n gryf mewn dysgu rhyngweithiol i wella dilyniant academaidd ei myfyrwyr. Mae gan Stuti wybodaeth helaeth yn ei maes, ar ôl derbyn llawer o brofiad ymchwil a mynychu sawl interniaeth a chynhadledd. Am y 9 mis diwethaf, mae hi wedi bod yn cynnal ymchwil mewn Bioleg RNA gan ganolbwyntio ar COVID-19. Ar ben hynny, mae Stuti wedi cael gwahoddiad i gynnal ymchwil o bell o labordy enillydd Gwobr Nobel 2007, Mario Capecchi. Y tu allan i ystafelloedd dosbarth a labordai, mae Stuti wedi hyfforddi am 12 mlynedd mewn Dawns Glasurol Indiaidd!

Tan Yin Xi.jpg

Yin Xi Tan

Mae Yin Xi yn fyfyriwr trydedd flwyddyn yng Ngholeg Yale-NUS ac yn astudio Astudiaethau Trefol a'r Gwyddorau Mathemategol, Cyfrifiadurol ac Ystadegol. Cafodd ei geni a'i magu yn Singapore ac mae hi erioed wedi eisiau astudio'r gwyddorau ers yn ifanc. Ers mynd i'r coleg, mae ei diddordebau academaidd wedi symud tuag at y croestoriad rhwng gwyddoniaeth data a chynllunio dinasoedd - yn fwy penodol, mae'n gobeithio gweithio tuag at gynhyrchu atebion sy'n cael eu gyrru gan ddata i greu dinasoedd mwy cynaliadwy. Y tu hwnt i academyddion, mae hi’n mwynhau dawnsio gyda’i ffrindiau yn nhîm dawns eu prifysgol a mynd ar anturiaethau i wario amser ag anifeiliaid.

raquelle_photo.jpg

Zihan Yu (Raquelle)

Mae Raquelle yn fyfyriwr israddedig 4edd flwyddyn yng Ngholeg Yale-NUS yn Singapore. Mae hi wrth ei bodd yn gwneud ymchwil biofeddygol, o ran dadansoddiad meincwaith a biowybodeg. Ei diddordebau ymchwil yw rhyngweithiadau meicrobau ac organebau letyol. Mae hi'n gobeithio astudio sut mae ein system imiwnedd yn rhyngweithio â'r microbau yn ein hamgylchedd a'r rhai sy'n byw y tu mewn i ni. Yn ystod ei hamser hamdden, mae'n chwarae'r piano, yn arbrofi gyda ryseitiau yn y gegin, yn gwylio Netflix, ac yn darllen llyfrau. Mae hi hefyd yn angerddol am gynaliadwyedd ac yn gobeithio annog pawb i fyw bywyd cynaliadwy.

Oes diddordeb gennych i ymuno â’n tîm?

Os yr ydych yn fyfyriwr STEM (israddedig neu ôl-raddedig) mewn prifysgol yng Nghymru ac yr hoffech chi ddysgu ochr yn ochr â hyfforddwyr eraill ar draws y byd trwy'r rhaglen Global Teaching Labs yn 2022, cysylltwch â Equal Education Partners.